Cyngor Sir Penfro Rhybudd Etholiad o Dau Cynghorwyr Tref Ar Gyfer Ward Castell Cyngor Tref Hwlffordd
CYMWYSTERAU YMGEISYDD
Er mwyn gallu sefyll yn etholiad cyngor cymuned/tref yng Nghymru rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu
drosodd ar y dyddiad enwebu, bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, yn
ddinesydd yn un o aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor cymwys, ac yn
bodloni o leiaf un o’r pedwar amod cymhwyso canlynol:
(i) yn etholwr llywodraeth leol yn y cymuned/tref, neu
(ii) wedi dai fel perchennog neu denant unrhyw dir neu aneddle arall yn y cymuned/dref yn ystod y cyfan
o’r deuddeng mis cyn y dyddiad yr ydych yn gael eich enwebu’n ymgeisydd, neu
(iii) a’i brif neu unig weithle yn ystod y deuddeng mis cyn y dyddiad yr ydych yn gael eich enwebu’n
ymgeisydd wedi bod o fewn ardal y cymuned/tref, neu
(iv) wedi byw yn y tref neu o fewn 4.8 cilomedrau iddi yn ystod y cyfan o’r deuddeng mis cyn y dyddiad
yr ydych yn gael eich enwebu’n ymgeisydd.
NOTICE IS HEREBY GIVEN THAT
1. Mae Etholiad i’w gynnal ar gyfer DAU Cynghorwyr Tref ar gyfer WARD CASTELL CYNGOR TREF HWLFFORDD.
2. Mae ffurflenni papurau enwebu ar gael o’r GWASANAETHAU ETHOLIADOL, UNED 23, YSTAD
DDIWYDIANNOL THORNTON, ABERDAUGLEDDAU, SA73 2RR.
3. Dylech rhoi ffurflenni enwebu papur drwy law i’r SWYDDOG CANLYNIADAU YN GWASANAETHAU
ETHOLIADOL, UNED 23, YSTAD DDIWYDIANNOL THORNTON, ABERDAUGLEDDAU, SA73 2RR
rhwng a 10.00yb a 4.00yp ar unrhyw ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, ond fan bellaf
erbyn 4.00yp ar DYDD GWENER 21ain GORFFENNAF 2023. (dylid gwneud apwyntiad i ddod âr
papurau enwebu i’r swyddfa yn bersonol. Gellir trefnu apwyntiad drwy ebostio
gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk), neu gellir cyflwyno enwebiadau yn electronaidd trwy
sganio’r ffurflenni enwebu a’u hanfon dros ebost at returningofficer@pembrokeshire.gov.uk
4. Os bydd pleidleisio, cynhelir yr etholiad ar y 17feg dydd o AWST 2023.
5. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn canol
nos ar DYDD MAWRTH 1af AWST 2023. Gellir cyflwyno cofrestriadau ar lein:
https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
6. Rhaid i newidiadau yn y trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy’r post gan etholwyr neu eu
dirprwyon sydd eisoes a phleidlais bost am gyfnod amhenodol neu benodol, neu geisiadau am
bleidleisiau absennol newydd gyrraedd y SWYDDOG COFRESTRU ETHOLIADOL, GWASANAETHAU
ETHOLIADOL, UNED 23, YSTAD DDIWYDIANNOL THORNTON, ABERDAUGLEDDAU, SA73 2RR
fan bellaf erbyn 5.00yh ar DYDD MERCHER 2il AWST 2023.
7. Mae’r ceisiadau am bleidleisio trwy ddirprwy yn gorfod cyrraedd y SWYDDOG COFRESTRU
ETHOLIADOL fan bellaf erbyn 5.00yh ar DYDD MERCHER 9fed AWST 2023.
WILLIAM BRAMBLE
Swyddog Canlyniadau
Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
(Rhif Ffôn 01437 775714/5)
Dyddiedig y 13eg ddydd o Gorffennaf 2023
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro