bariau

Brand Hwlffordd


Mae Brand Hwlffordd wedi cael ei lansio!

Mae Hwlffordd yn mwynhau cyfnod o fuddsoddiad sylweddol, a fydd yn denu sylw a phobl i'r dref.  

Mae'r pecyn cymorth hunaniaeth brand gweledol newydd hwn wedi'i greu i helpu i hyrwyddo ac uno Hwlffordd. Mae'n gosod y dref sirol wych hon yn ei lle cywir yng nghanol Sir Benfro. 

Mae'r pecyn cymorth ar gyfer: 

  • Busnesau
  • Prosiectau lleol 

Fe'i datblygwyd gyda llawer o gymorth gan bobl, busnesau a sefydliadau Hwlffordd a thrwy ei ddefnyddio gallwch ddangos eich balchder yn Hwlffordd, a'ch bod yn perthyn iddi. 

Yn y pecyn cymorth fe welwch chi:

  • Llawlyfr y brand – sut y crëwyd yr hunaniaeth a sut allwch chi ei defnyddio 
  • Y ffeiliau logo y gallwch eu defnyddio ar gyfer print ac ar-lein 
  • Y ffontiau, fel bod eich geiriau'n dilyn yr un arddull 
  • Y lliwiau a'r patrymau a fydd yn dod â'ch prosiectau'n fyw

https://www.pembrokeshire.gov.uk/regeneration-project-plans/haverfordwest-brand-toolkit

Gobeithiwn y byddwch yn cael eich ysbrydoli i ddangos eich balchder a'ch cefnogaeth i Hwlffordd.