
Mae'r Cyngor yn cynnwys 17 Cynghorydd, pob un ohonynt yn cael eu hethol am dymor o bum mlynedd yn y swydd. Cynhelir yr etholiadau lleol nesaf yn 2027.
Mae'r dref wedi'i rhannu'n 5 Ward ac mae pob Cynghorydd yn cynrychioli un o'r rhain: Priory, Prendergast, Garth, Portfield a Castle.
Y Cyngor Tref yw'r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl, gan ddarparu ystod eang o wasanaethau ac amwynderau gan gynnwys canolfan gymunedol, cyfleuster newid chwaraeon, mannau gwyrdd a mynwentydd.
Mae'r Cyngor yn cynnal y rhan fwyaf o'i fusnes drwy gyfarfodydd gyda'r nos misol o'r Cyngor Llawn a dau Bwyllgor Sefydlog. Mae'r cyfarfodydd hyn ar agor i'r cyhoedd ac eithrio lle mae materion personol neu gyfrinachol yn cael eu hystyried.
Mae'r Cyngor wedi ymdrechu'n barhaus a bydd yn parhau i ymdrechu i wella'r dref i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Crëwyd tref Hwlffordd, Sir Benfro, gan fewnfudwyr o Fflandrys ar fenter Harri I. Derbyniodd Hwlffordd ei Siarter gyntaf gan Harri II (1154 – 1189). Cyhoeddwyd Siarteri diweddarach gan frenhinoedd a chan Ieirll Penfro. Roedd y dref yn Gorfforaeth, a lywodraethwyd gan faer, a oedd hefyd â'r teitl Llyngesydd y Porthladd. Ym 1479 rhoddwyd yr hawl iddi gael Siryf a dau Feili. Mae Hwlffordd yn un o ddim ond dwy dref yng Nghymru i gadw ei swydd fel Siryf hyd heddiw.
Ym 1545 gwnaeth Harri VIII hi’n “dref a sir ynddi ei hun”. Ym 1609 enillodd statws sirol. Hyd at 1835 disgrifiwyd y Gorfforaeth fel y Maer a’r Cyngor Cyffredin, neu Faer a Chyngor Tref a Sir Hwlffordd. O 1835 ymlaen fe’i gelwid yn Gyngor Bwrdeistref Hwlffordd.
Ym 1894 rhoddwyd pwerau ychwanegol i'r Cyngor Bwrdeistref hwn fel Cyngor Dosbarth Trefol ac yna ym 1974 fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol trosglwyddwyd y rhan fwyaf o'r pŵer i Gyngor Dosbarth Presceli. Crëwyd Cyngor Cymuned Hwlffordd gyda hurddas Cyngor Tref ac mae wedi bod yn cael ei adnabod fel Cyngor Tref Hwlffordd ers hynny.
Mae Cyngor Tref Hwlffordd bellach yn gwasanaethu etholaeth o tua 14000 o drigolion, yn rhan o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl ac yn gyfrifol am y materion mwyaf lleol.
Mae gan Gyngor Tref Hwlffordd ddau bwyllgor sefydlog: Rheolaeth, Ystadau a Strategaeth a Phersonél, Polisi a Chyllid.
Mae'r rhain yn cyfarfod yn fisol yn Swyddfeydd Cyngor y Dref (dolen rithwir ar gael hefyd).
Bydd cofnodion y cyfarfodydd hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn i’w cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
Cylch Gorchwyl:
Pwyllgor MES
Pwyllgor PPF
Gellir sefydlu Grwpiau Gwaith neu Dasg a Gorffen ychwanegol i ystyried materion penodol.