bariau

Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II


Gyda thristwch mawr y mae Hwlffordd wedi clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.

Mae'r Frenhines Elizabeth wedi bod yn Frenhines ryfeddol, yn arweinydd gwych i'r Deyrnas Unedig ac yn Bennaeth uno'r Gymanwlad. Fel Brenhines, cyflawnodd ei dyletswyddau'n ddiflino a chyda hurddas tawel wrth gynrychioli popeth sy'n dda am ein cenedl. Roedd hi'n amlwg yn gofalu am bobl, yn wrandäwr da iawn ac roedd ganddi synnwyr digrifwch deniadol.

Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r Teulu Brenhinol yn yr amser trist hwn.

Ni welwn ni byth ei thebyg hi eto.

Bendith Duw arnoch chi a diolch i chi.

Y Cynghorydd Alan Buckfield, Maer Hwlffordd

Mae Cyngor Tref Hwlffordd wedi agor llyfr cydymdeimlad. Os hoffech ei lofnodi, bydd ar gael yn ystod oriau agor ein swyddfa 9.30am i 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.