bariau

Swydd Wag: Dirprwy Glerc y Dref


Mae Cyngor Tref Hwlffordd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hyblyg i fod yn Ddirprwy Glerc y Dref i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cyngor yn y dyfodol. Yn ddelfrydol, dylech fod â phrofiad o gyllidebau, cyllid a gweinyddu cyfarfodydd, meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a gallu gweithio fel rhan o dîm bach i helpu i gyflawni cynllun strategol y Cyngor. Darperir hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus lle bo angen.

Mae Cyngor y Dref yn darparu ystod eang o wasanaethau ac amwynderau gan gynnwys pafiliwn chwaraeon, canolfan gymunedol a Mynwentydd. 

Cyflog NJC SCP 24-28 £33,024-£36,648 y flwyddyn am 37.5 awr yr wythnos

Swyddfeydd Cyngor y Dref, Yr Hen Farchnad Wlân, Stryd y Cei, Hwlffordd SA61 1BG       

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am -5pm

Sut i wneud cais:

I ofyn am becyn cais, anfonwch e-bost at Glerc y Dref

clerctref@haverfordwest-tc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4.30pm ar 22 Mai, 2024