Ymunwch â'n Tîm
Rydym yn edrych i benodi Uwch Swyddog Gweinyddol
Bydd y rôl heriol hon yn darparu cefnogaeth i Glerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol wrth gyflawni swyddogaethau rheoli, llywodraethu statudol a dirprwyedig Cyngor y Dref.
Y Cyngor Tref yw'r haen o Lywodraeth Leol sydd agosaf at y bobl, gan ddarparu ystod eang o wasanaethau ac amwynderau gan gynnwys canolfan gymunedol, cyfleuster newid chwaraeon, mannau gwyrdd a mynwentydd.
Mae'r swydd yn 30 awr yr wythnos (gyda'r potensial am oriau ychwanegol trwy drafodaeth) o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda rhywfaint o waith gyda'r nos ac achlysurol ar benwythnosau.
Cyflog: Graddfa gyflog Cyngor Cyd-Genedlaethol SCP23 ar hyn o bryd £27,713 pro rata yn seiliedig ar gyfradd 2020/2021 (cyfradd gyflog 2021/2022 heb ei chadarnhau eto)
I ofyn am becyn cais, anfonwch e-bost at Glerc y Dref yn townclerk@haverfordwesttown.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Hydref 2021