bariau

Swydd Wag Cludwr Byrllysg a Chludwr Cleddyf


Mae Cyngor Tref Hwlffordd yn chwilio am ddau unigolyn hyderus a phroffesiynol ar gyfer swyddi Rhingyll wrth Arfau (Cludwr Cleddyf) a Rhingyll y Byrllys (Cludwr Byrllys) i gynorthwyo Maer y Dref a'r Siryf mewn Digwyddiadau Dinesig.

Mae Cyngor y Dref yn darparu ystod eang o wasanaethau ac amwynderau gan gynnwys pafiliwn chwaraeon, mannau gwyrdd o amgylch y dref a dwy Fynwent. 

Telir Lwfans o £50 fesul digwyddiad ar gyfer y swyddi hyn (fel arfer 6 digwyddiad y flwyddyn) ynghyd ag atodiad ychwanegol am ddigwyddiad sy'n para diwrnod cyfan.

Darperir gwisgoedd seremonïol

Sut i wneud cais:

I ofyn am becyn cais, anfonwch e-bost at Glerc y Dref

clerctref@haverfordwest-tc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 25 Ebrill, 2024.

Swyddfeydd Cyngor y Dref, Yr Hen Farchnad Wlân, Stryd y Cei, Hwlffordd SA61 1BG