Mrs. Barbara Morgan, Cyn Faer, Siryf a Chynghorydd Tref
Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth cyn-Faer, Siryf a Chynghorydd Tref, Mrs Barbara Morgan.
Gwasanaethodd Barbara ein tref fel Cynghorydd Tref am ddeg ar hugain o flynyddoedd, gan ddal swydd y Maer o 1987 i 1988 a thri thymor yn y swydd fel Siryf, 1998, 2005 a 2013. Hi hefyd oedd Cadeirydd y Pwyllgor Personél, Polisi a Chyllid am nifer o flynyddoedd.
Roedd Barbara yn aelod ymroddedig o Gymdeithas Gefeillio Hwlffordd a chreuodd lawer o gyfeillgarwch hirhoedlog gyda phobl Oberkirch. Roedd hi'n ymwneud yn helaeth ag Ymddiriedolaeth Maes Rasio (Parc Cyhoeddus) Hwlffordd, gan ddal swydd y Cadeirydd hyd at ei marwolaeth.
Roedd Barbara yn was da i'n tref a bydd llawer o bobl yn ei chofio'n annwyl. Cynhelir munud o dawelwch er cof am Barbara yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn.
