Sul y Cofio

Gwasanaeth a Parêd Sul y Cofio Hwlffordd – Dydd Sul 14 Tachwedd 2021 Ar ran Lleng Brydeinig Frenhinol Hwlffordd, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Gwasanaeth a Parêd Sul y Cofio yn digwydd ar 14 Tachwedd 2021.
Ar ôl y gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn mynd trwy ganol y dref ac yn gwasgaru wrth y Clwb Gwasanaethau yn Stryd y Cei. Cynhelir gwasanaethau pellach ar 8 Tachwedd 2021 ar gyfer gosod croesau yng ngardd Goffa'r Pabi ac ar 11 Tachwedd 2021, Gwasanaeth Dydd y Cofio i nodi Dydd y Cadoediad. Cynhelir yr holl wasanaethau wrth Gofeb Ryfel y Sir ar Sgwâr y Cyfarch a byddant yn dechrau am 10.50am.
Cyfeiriwch at ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar Covid-19 a'u dilyn mewn perthynas â mynychu digwyddiadau awyr agored a gofynnwn i chi beidio â mynychu os oes gennych unrhyw symptomau.