Cau Ffordd Dros Dro – Sgwâr y Morwyr
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi Gwaharddiad Dros Dro ar Draffig Cerbydau (Cau Ffordd).
Ymgeisydd: Dŵr Cymru
Lleoliad: Sgwâr y Mariners, Hwlffordd – o'i gyffordd â Stryd yr Ysgubor, i'r dwyrain i'w chyffordd â Rhodfa Perrot.
Dyddiadau gweithredol: Dydd Sul 21 Mawrth am 1 diwrnod
Rheswm dros y cyfyngiad: Cysylltiad gwasanaeth dŵr newydd
Llwybr amgen: Bryn y Twr, Stryd y Dew, Stryd Albert a Stryd yr Ysgubor
Ni fydd y cyfyngiadau a osodir gan yr hysbysiad hwn yn berthnasol i'r cerbydau hynny sy'n gysylltiedig â'r gwaith, cerbydau'r gwasanaethau brys na mynediad cerbydau i eiddo yr effeithir arnynt lle bo'n ymarferol a byddant yn berthnasol yn ystod yr adegau ac i'r graddau y nodir gan arwyddion traffig yn unig.
Y bwriad yw cwblhau'r gwaith o fewn y cyfnod a nodir uchod, fodd bynnag, gall yr hysbysiad hwn barhau mewn grym am uchafswm o 5 diwrnod os oes angen.
Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwy gydol y cau.