bariau

Curo'r Terfynau 2022


Cynhelir Curo'r Terfynau ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2022 yn Stryd y Cei.

Bydd y cychod yn gadael y cei tua 7pm ar gyfer Seremoni Curo'r Terfynau draddodiadol a fydd yn digwydd ar ffin Hwlffordd.

O 5pm tan 9pm, rydym yn cynnal digwyddiad mynediad am ddim gydag adloniant am ddim a fydd yn cynnwys – cerddoriaeth fyw a gynhelir gan Radio Pure West, peintio wynebau, diddanwr plant a chastell neidio. Bydd nifer gyfyngedig o arlwywyr yn cynnig bwyd i'w brynu.

Bydd cau stryd ar waith ar gyfer Stryd y Cei.

Dilynwch ein tudalen Facebook am unrhyw ddiweddariadau ac am ragor o wybodaeth.

Croeso i bawb fynychu.