Stryd Dew/Stryd Albert/Lôn y Shipman/Heol Milford, Hwlffordd
SIR PENFRO (HEOL DEW/HEOL ALBERT/LÔN SHIPMAN/FFORDD MILFORD, HWLFFORDD
GORCHYMYN (GWAHARDDIAD DROS DRO AR DRAFNIDIAETH CERBYDAU) 2022
Rhoddir RHYBUDD drwy hyn fod Cyngor Sir Penfro yn bwriadu, o leiaf saith diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn, wneud Gorchymyn o dan Adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991.
Mae'r Gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol er mwyn gallu cynnal gwaith ail-wynebu'r ffordd gerbydau.
Effaith y Gorchymyn fydd gwahardd dros dro bob traffig cerbydau heblaw cerbydau eithriedig rhag mynd ar hyd y rhannau hynny o'r ffordd yn Dew Street/Albert Street/Shipmans Lane/Milford Road, Hwlffordd lle maent i gyd yn cwrdd.
Bydd y llwybr amgen ar gyfer traffig yn cael ei bennu a'i arwyddo'n unol â hynny wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwy gydol y cau.
Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau, a fydd yn cael eu llofnodi yn unol â hynny, yn dod i rym ar ddydd Sul 6 Mawrth 2022 am ddau Sul yn olynol.
Bydd y Gorchymyn yn parhau i fod yn ddilys am gyfnod o 12 mis ar y mwyaf fel rhagofal rhag ofn y bydd angen aildrefnu'r gwaith neu rhag ofn unrhyw amgylchiadau annisgwyl.
Dyddiedig y 9fed dydd hwn o Chwefror 2022
Darren Thomas
Pennaeth Seilwaith
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
