bariau

Swydd Wag – Dirprwy Glerc y Dref


Y Cyngor Tref yw'r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl, gan ddarparu ystod eang o wasanaethau ac amwynderau gan gynnwys canolfan gymunedol, cyfleuster newid chwaraeon, mannau gwyrdd a mynwentydd.

Mae'r Cyngor yn cynnal y rhan fwyaf o'i fusnes drwy gyfarfodydd misol gyda'r nos o'r Cyngor Llawn a dau Bwyllgor Sefydlog. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd yr Is-bwyllgorau a'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn ôl yr angen.

Y Cyngor yw unig ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Bridge Meadow Hwlffordd, sy'n darparu mannau gwyrdd, llwybrau a man chwarae i blant.

Mae Cyngor Tref Hwlffordd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hyblyg i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cyngor yn y dyfodol.

Yn ddelfrydol, dylech fod â phrofiad o gyllidebau, cyllid a gweinyddu cyfarfodydd. Dylech feddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a gallu gweithio fel rhan o dîm bach i helpu i gyflawni cynllun strategol y Cyngor. Darperir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Cyngor Tref Hwlffordd yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr da ac mae staff yn mwynhau'r manteision sy'n deillio o weithio i gyflogwr bach sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n gofalu'n angerddol am ei bobl ac yn darparu hyblygrwydd i sicrhau'r cydbwysedd bywyd/gwaith gorau posibl. Mae'r oriau cytundebol yn amodol ar drafodaeth gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Dim ond ffurflenni cais wedi'u cwblhau y byddwn yn eu hystyried, nid CVs. Dylid cyflwyno pob cais i Glerc y Dref, drwy e-bost townclerk@haverfordwest-tc.gov.uk erbyn 4.30pm ar ddydd Iau 17 Awst 2023 fan bellaf.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Dref drwy e-bost neu ffôn 01437 763771 / 700163 .